Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Ionawr 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
I ofyn i’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Phrifysgol Caerdydd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd 400 o swyddi yn cael eu torri?
I ofyn i’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod buddiannau cefnogwyr rygbi Cymru yn cael eu blaenoriaethu mewn unrhyw gytundebau darlledu yn y dyfodol, yn dilyn adroddiadau diweddar ynghylch cais posibl TNT Sports am hawliau teledu y Chwe Gwlad?
(5 munud)
(5 munud)
NDM8805 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12.19 (Dadleuon Agored)', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2025.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.19, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
(30 munud)
NDM8801 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Cyfalaf Trafodiadau Ariannol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2024.
Sylwch: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2025.
(60 munud)
NDM8803 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r Trosolwg o'r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 21 Ionawr 2025.
2. Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Cymru:
a) bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi cynyddu am y seithfed mis yn olynol i 5.6 y cant, sef y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig;
b) bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng i 70 y cant, sef y gyfradd isaf yn y Deyrnas Unedig;
c) bod gan Gymru gyfradd anweithgarwch economaidd o 25.6 y cant, sef y gyfradd uchaf ym Mhrydain Fawr; a
d) mai Cymru sydd â’r pecynnau cyflog isaf ym Mhrydain Fawr.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu mwy o swyddi yng Nghymru a hybu twf drwy:
a) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi;
b) cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach;
c) sicrhau ffyniant broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad; a
d) gweithio gyda Llywodraeth y DU i dalu costau ei chynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyfer busnesau preifat.
Trosolwg SYG o'r Farchnad Lafur
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y ffaith bod problemau o hyd o ran asesu perfformiad y llafurlu yng Nghymru yn sgil y pryderon ynghylch ansawdd yr Arolwg o’r Llafurlu.
Yn cydnabod bod data Arolwg y Llafurlu ar gyfer Cymru ymhlith y data o ansawdd isaf o blith holl wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr;
Yn cytuno mai’r ffordd orau o ddeall llafurlu Cymru yw ystyried tueddiadau hirdymor ar draws amryfal ddangosyddion, sy’n cynnwys ffynonellau eraill fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data am swyddi’r gwethlu, a data am nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
Yn nodi ymhellach fod cyflogau oedolion yng Nghymru a oedd yn gweithio’n amser llawn yn 2024 yn uwch na chyflogau oedolion cyfatebol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Iwerddon, Swydd Efrog a Humber.
Yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn creu mwy o swyddi yng Nghymru ac yn hybu twf drwy wneud y canlynol:
a) parhau i ddarparu pecynnau o gymorth ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £134 miliwn eleni ac £85 miliwn y flwyddyn nesaf yn ogystal â chynlluniau rhyddhad parhaol gwerth £250 miliwn yn flynyddol a’r cymorth ychwanegol sylweddol sydd wedi’i ddarparu i fusnesau a threthdalwyr eraill dros y blynyddoedd diwethaf;
b) sicrhau buddsoddiad o’r tu allan a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru;
c) cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn adfer y drefn o roi’r hawl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl 2026 a datblygu rhaglen newydd o fuddsoddiadau gyda phartneriaid ar draws Cymru yn dilyn cau rhaglenni gwaddol fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2026; a
d) cydweithio â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddiwydiannol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod economi Cymru wedi dioddef o ddiffyg buddsoddiad a model cyllido annheg o dan Lywodraethau blaenorol a phresennol y DU.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddychwelyd pwerau i wneud penderfyniadau dros gyllid ôl-Brexit yn ôl i'r Senedd.
Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) dilyn argymhelliad yr OECD ar sefydlu asiantaeth hyd braich i hyrwyddo datblygiad economaidd;
b) mabwysiadu targedau newydd ac effeithiol i yrru datblygiad economaidd cynaliadwy yng Nghymru;
c) gweithredu archwiliad sgiliau cenedlaethol, mapio anghenion economi Cymru ar gyfer y dyfodol a chyfateb hyn â buddsoddiad mewn strategaeth ar gyfer sgiliau a hyfforddiant; a
d) adolygu ac adnewyddu'r Warant Pobl Ifanc, gan sicrhau bod gan bob person ifanc fynediad gwirioneddol at waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwerthfawr ar gyfer datblygu sgiliau.
(60 munud)
NDM8804 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd hi’n bum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ar 31 Ionawr 2025.
2. Yn gresynu at y canlynol:
a) yn ôl prosiect Cost Economaidd Brexit, bod y ffurf Brexit caled a ddilynwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi costio hyd at £4 biliwn i economi Cymru;
b) bod Brexit wedi lleihau gwerth allforion Cymru hyd at £1.1 biliwn, a bod cytundebau masnach ôl-Brexit wedi bod yn arbennig o anffafriol i amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yng Nghymru;
c) y golled bellach i Gymru o hyd at £1 biliwn mewn cyllid strwythurol a chyllid datblygu gwledig Ewropeaidd o ganlyniad i Brexit;
d) y cyfleoedd i weithio, teithio, astudio a byw yn Ewrop y mae pobl yng Nghymru wedi eu colli o ganlyniad i Brexit, yn enwedig pobl ifanc;
e) bod Llywodraeth bresennol y DU wedi methu â mynd i'r afael â'r heriau a achosir gan Brexit i Gymru a'r DU yn ehangach, ac wedi nodi ei gwrthwynebiad i ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau; a
f) diddymu Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno deddfwriaeth newydd i hwyluso aliniad ddeinamig rhwng cyfraith Cymru a'r UE;
b) datblygu a mabwysiadu strategaeth Ewropeaidd gynhwysfawr; ac
c) pwyso ar Lywodraeth y DU i geisio ailymuno â farchnad sengl ac undeb tollau'r UE.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid parchu a gweithredu canlyniad refferenda.
3. Yn nodi ymhellach y bydd 31 Ionawr 2025 yn nodi pum mlynedd ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ailsefydlu cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd o dan Lywodaeth newydd y DU ac yn nodi bod y Brexit caled a drafodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU wedi bod yn niweidiol i Gymru, ei phobl a’r DU.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru n anelu at sicrhau bod sylw yn cael ei roi i’r niwed a achoswyd i Gymru wrth i’r DU ymadael â’r UE yn y fath fodd.
3. Yn nodi ymhellach fod Llywodraeth Cymru yn atgyfnerthu’n effeithiol gysylltiadau gyda phartneriaid Ewropeaidd drwy gadw ein swyddfa ym Mrwsel ar agor, a phenodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Ewrop; mae wedi cydweithio â Gweinidogion ac Uwch Swyddogion o wahanol ranbarthau o fewn yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd Québec, er mwyn trafod cydweithredu rhyngranbarthol cynyddol yn ardal yr Iwerydd, a thrwy’r Rhaglen Taith mae wedi dangos ei ymrwymiad parhaus i hwyluso symudedd pobl ifanc.
4. Yn edrych ymlaen at well cysylltiadau gyda’r Undeb Ewropeaidd.
(30 munud)
NDM8802 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
A fydd clychau Rhymni yn tawelu? Gwarchod asedau cymunedol yn y cymoedd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Chwefror 2025